Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2017 Rhif (Cy. )

Y GYMRAEG

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad 27 o gyrff a restrir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”). Mae’r cyrff hyn yn rhan o’r sector addysg, sef:

                            (i)    Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig;

                          (ii)    Sefydliadau Addysg Bellach (Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig,  corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant ac WEA YMCA CC Cymru);

                        (iii)    Corfforaethau Addysg Bellach (Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Cambria, Coleg y Cymoedd, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Gwent, Coleg Penybont, Coleg Sir Benfro, Grŵp Llandrillo Menai, Grŵp NPTC;

                        (iv)    Sefydliadau Addysg Uwch (Prifysgol Aberystwyth, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyfyngedig, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant);

                          (v)    Corfforaethau Addysg Uwch (Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru);

                        (vi)    Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau.

Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd drwy hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir yn y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).

Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw hynny’n rhesymol ac yn gymesur a’i fod yn dymuno gwneud hynny) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon  o dan rai amgylchiadau, a safon arall  o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw un safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd os oes dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 8 i 11 mewn perthynas ag ateb galwadau ffôn), caiff y Comisiynydd drwy gyfrwng hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny’n unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd felly i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.

Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod buan i gorff gydymffurfio â safon (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio perthnasol i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).

Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.

Nid yw’r safonau cyflenwi gwasanaethau yn gymwys ond i’r graddau bod y gweithgaredd a gyflawnir neu’r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud â’r materion a restrir ym mharagraff 31 o Atodlen 1. Nid yw hyn yn cynnwys cyrsiau (gan gynnwys cyrsiau ar-lein) na deunyddiau cyrsiau.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau llunio polisi. Mae adran 29 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon llunio polisi” yw safon sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried un neu ragor o’r canlynol—

(a)     pa effeithiau, os o gwbl, (a pha un a yw'r effeithiau’n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;

(b)     sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;

(c)     sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau gweithredu. Mae adran 30 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon gweithredu” yw safon sy'n ymwneud â swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall (“gweithgareddau perthnasol”) person (“A”), ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—

(a)     gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,

(b)     gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(c)     gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.

Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion mewn perthynas â chydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud  â’r Gymraeg.

Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion hynny yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 i 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2017 Rhif (Cy. )

Y GYMRAEG

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                        7 Chwefror 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), ac wedi cael cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Chwefror 2017.

(3)  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

ystyr “corff” (“body”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 3;

ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd neu fyfyriwr.

(5) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

(b)     yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.

(6) Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.

Safonau a bennir

2.—(1)1) Yn Atodlen 1—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)     mae Rhan 2 yn darparu bod—

                            (i)    rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill, a

                          (ii)    rhaid i hysbysiad cydymffurfio beidio â’i gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 o dan amgylchiadau penodol os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)     mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(2) Yn Atodlen 2—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;

(b)     mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(3) Yn Atodlen 3—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;

(b)     mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)     mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(4) Yn Atodlen 4—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;

(b)     mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(5) Mae Atodlen 5 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4 ac, yn benodol—

(a)     mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi  gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;

(b)     mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;

(c)     mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;

(ch)    mae Rhan 4 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;

(d) mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylchdehongli’r safonau atodol;

(dd) mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol.

Safonau sy’n benodol gymwys

3. Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r canlynol—

(1) Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni—

(a)     94 i 162;

(b)     169 i 182;

(2) Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Corfforaethau Addysg Bellach yng Nghymru, Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig, corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant ac WEA YMCA CC Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni—

(a)     1 i 136;

(b)     138 i 182;

(3) Prifysgol Aberystwyth, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Corfforaethau Addysg Uwch yng Nghymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyfyngedig, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r safonau a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni;

(4) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2 a’r Atodlenni—

(a)     1 i 24B;

(b)     27 i 27D;

(c)     30 i 59;

(ch) 61 i 91;

(d)     94 i 103;

(dd) 105 i 136;

(e) 138 i 182.

 

Enw

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad


                    ATODLEN 1    Rheoliad 2(1)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

 

Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff

 

 

(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth

 

Safon 1:

Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.

 

 

(2) Pan fo corff yn gohebu

 

 

(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn

 

Safon 2:           

Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—

(a)     cadw cofnod o ddymuniad A,   

(b)     gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac

(c)     anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

 

 

(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd

 

Safon 3:

Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os—          

(a)     yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid  ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny;

(b)     yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid  ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny.

 

 

(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi)

 

Safon 4:

Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.

 

 

(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu

 

Safon 5:

Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw.

 

Safon 6:           

Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os  yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).

 

Safon 7:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)     mewn gohebiaeth, a

(b)     mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

 

2

Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac  oddi wrth gorff

 

 

(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau

 

Safon 8:

Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg.

 

Safon 9:

Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.

 

Safon 10:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol).

 

Safon 11:

Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny—

(a)     hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)     hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

 

Safon 12:

Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 13:

Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.

 

Safon 14:

Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

 

Safon 15:

Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.

 

Safon 16:

Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.

 

Safon 17:

Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod, yn Gymraeg, i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.

 

 

(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff

 

Safon 18:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).

 

Safon 19:

Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg—

(a)     hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)     hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

 

Safon 20:

Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person.

 

 

(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff

 

Safon 21:

Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg.

 

 

(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio

 

Safon 22:

Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.

 

3

Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol neu i fyfyrwyr o fewn carfan benodol

 

 

(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall

 

Safon 23:

Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 24:

Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.

 

Safon 24A:

Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

 

Safon 24B:

 

 

 

Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

 

 

(2) Cyfarfodydd gydag un person yn ymwneud â chwynion, achosion disgyblu neu gymorth i fyfyrwyr

 

Safon 25:

 

Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gyfarfod, ac

(a)     bod y cyfarfod yn ymwneud â chŵyn am A neu gŵyn a wnaed gan A;

(b)     bod y cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch A; neu

(c)     mai diben y cyfarfod yw darparu cymorth myfyrwyr i A,

rhaid ichi—

                            (i)    gofyn i A a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a

                          (ii)    os yw A yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 26:

 

Os byddwch yn gwahodd unigolyn (“A”) i gyfarfod, ac

(a)     bod y cyfarfod yn ymwneud â chŵyn am A neu gŵyn a wnaed gan A;

(b)     bod y cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch A; neu

(c)     mai diben y cyfarfod yw darparu cymorth myfyrwyr i A,

rhaid ichi—

                            (i)    gofyn i A a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a

                          (ii)    hysbysu A y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw.

 

Safon 26A:

 

Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod—

(a)     os—

                            (i)    yw’r cyfarfod yn ymwneud â chŵyn am yr unigolyn (“A”) a wahoddwyd neu gŵyn a wnaed gan A;

                          (ii)    yw’r cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch A; neu

                        (iii)    diben y cyfarfod yw darparu cymorth myfyrwyr i A; a

(b)     os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

 

Safon 26B:

Rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gael mewn cyfarfod—

(a)     os—

                            (i)    yw’r cyfarfod yn ymwneud â chŵyn am yr unigolyn (“A”) a wahoddwyd neu gŵyn a wnaed gan A;

                          (ii)    yw’r cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch A; neu

                        (iii)    diben y cyfarfod yw darparu cymorth myfyrwyr i A; a

(b)     os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

 

 

(3) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig

 

Safon 27:

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

 

Safon 27A:           

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

 

Safon 27B:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

 

Safon 27C:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

 

Safon 27CH:

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 27D:

 

 

 

 

 

 

Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

 

 

(4) Cyfarfodydd gyda mwy nag un person yn ymwneud â chwynion, achosion disgyblu neu gymorth i fyfyrwyr

 

Safon 28:

 

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, ac

(a)     bod y cyfarfod yn ymwneud â chŵyn a wnaed gan un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd neu gŵyn a wnaed am un neu ragor o’r unigolion hynny;

(b)     bod y cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd; neu

(c)     mai diben y cyfarfod hwnnw yw darparu cymorth myfyrwyr i un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd;

rhaid ichi—

                            (i)    gofyn i’r unigolyn hwnnw neu bob un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg; a

                          (ii)    os yw’r unigolyn hwnnw, neu os yw pob un o’r unigolion hynny, yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 29:

 

Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, ac

(a)     bod y cyfarfod yn ymwneud â chŵyn a wnaed gan un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd neu gŵyn a wnaed am un neu ragor o’r unigolion hynny;

(b)     bod y cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd; neu

(c)     mai diben y cyfarfod hwnnw yw darparu cymorth myfyrwyr i un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd;

rhaid ichi—

                            (i)    gofyn i’r unigolyn hwnnw neu bob un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod; a

                          (ii)    hysbysu’r unigolyn hwnnw (neu’r unigolion hynny) y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg at y diben hwnnw.

 

Safon 29A:

 

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn cyfarfod—

(a)     os ydych wedi gwahodd mwy nag un person i’r cyfarfod;

(b)     os—

                            (i)    yw’r cyfarfod yn ymwneud â chŵyn a wnaed gan un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd neu gŵyn a wnaed am un neu ragor o’r unigolion hynny;

                          (ii)    yw’r cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd; neu

                        (iii)    diben y cyfarfod yw darparu cymorth myfyrwyr i un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd; ac

(c)     os yw o leiaf un o’r unigolion hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

 

Safon 29B:

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn cyfarfod—

(a)     os ydych wedi gwahodd mwy nag un person i’r cyfarfod;

(b)     os—

                            (i)    yw’r cyfarfod yn ymwneud â chŵyn a wnaed gan un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd neu gŵyn a wnaed am un neu ragor o’r unigolion hynny;

                          (ii)    yw’r cyfarfod yn ymwneud ag achos disgyblu ynghylch un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd; neu

                        (iii)    diben y cyfarfod yw darparu cymorth myfyrwyr i un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd; ac

(c)     os yw o leiaf un o’r unigolion hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu.

 

4

Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr o fewn carfan benodol

 

Safon 30:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored—

(a)     i’r cyhoedd, neu

(b)     myfyrwyr sydd o fewn carfan benodol,

 

rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

 

Safon 31:

Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored—

(a)     i’r cyhoedd, neu

(b)     myfyrwyr sydd o fewn carfan benodol,

rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.

 

Safon 32:           

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored—

(a)     i’r cyhoedd, neu

(b)     myfyrwyr sydd o fewn carfan benodol,

rhaid ichi—

                            (i)    gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

 

Safon 33:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored—

(a)     i’r cyhoedd, neu

(b)     myfyrwyr sydd o fewn carfan benodol,

 

rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg— 

                            (i)    bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

 

Safon 34:

Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored—

(a)     i’r cyhoedd, neu

(b)     myfyrwyr sydd o fewn carfan benodol,

 

rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

 

5

Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff

 

Safon 35:

Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad  (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).

 

 

Safon 36:

Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).

 

6

Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff

 

Safon 37:

Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r  fersiwn Saesneg.

 

7

Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus

 

Safon 38:

Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

 

Safon 39:

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.

 

8

 

Safonau ynghylch darlithoedd cyhoeddus

 

Safon 40:

 

Os byddwch yn trefnu darlith gyhoeddus, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael at ddiben unrhyw gwestiynau a ofynnir gan y gynulleidfa yn ystod y ddarlith neu ar ôl y ddarlith—

(a)     pan fo pwnc y ddarlith gyhoeddus yn awgrymu y dylid darparu gwasanaeth o’r fath, neu

(b)     pan fo’r gynulleidfa a ragwelir a’u disgwyliad yn awgrymu y dylid darparu gwasanaeth o’r fath.

 

Safon 40A:

 

Os byddwch yn trefnu darlith gyhoeddus ac y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg fod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg.

 

9

 

Seremonïau graddio a gwobrwyo

 

Safon 41:

 

Os byddwch yn trefnu seremoni raddio neu wobrwyo, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â deunydd neu arwyddion a arddangosir gennych yn y lleoliad ac mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a ddarperir am drefn y digwyddiadau yn y seremoni (pa un ai ar ffurf electronig, ysgrifenedig neu lafar).

 

Safon 42:

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn seremoni raddio neu wobrwyo, rhaid ichi—

(a)     gofyn i bob person a wahoddwyd a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)     os yw person (neu o leiaf un o’r personau hynny) wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y seremoni—

                            (i)    darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw, neu

                          (ii)    darparu cyfieithiad Saesneg ysgrifenedig yn y seremoni.

 

10

Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau

 

Safon 43:

Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd neu at ddefnydd myfyrwyr yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg.

 

Safon 44:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn rhaid  ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)     agendâu, cofnodion a phapurau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr, sy’n ymwneud â chyfarfodydd Bwrdd neu Gyngor;

(b)     agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr.

 

Safon 45:

Rhaid i unrhyw drwydded, hawlen neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg.

 

Safon 46:

Rhaid i unrhyw lyfryn, prosbectws, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg.

 

Safon 47:

Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg—

(a)     polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;

(b)     canllawiau a chodau ymarfer;

(c)     papurau ymgynghori.

 

Safon 48:           

Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 49:           

Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd.

 

Safon 50:

Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)     os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)     os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

 

Safon 51:

Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

 

Safon 52:

Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.

 

11

Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni

 

Safon 53:

Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr gael ei llunio yn Gymraeg.

 

Safon 53A:

Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.

 

Safon 53B:

Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).

 

Safon 54:

Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg.

 

12

Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff

 

 

(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff

 

Safon 55:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

 

Safon 56:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg  yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

 

Safon 57:

Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg  yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.

 

Safon 58:

Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.

 

Safon 59:

 

 

 

Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.

Safon 60:

Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg yn Gymraeg ar eich mewnrwyd i fyfyrwyr, eich gwefannau rhith-ddysgu a’ch gwefannau porth dysgu.

 

 

(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff

 

Safon 61:

Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.

 

13

Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol

 

Safon 62:

 

Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 63:

 

Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).

 

14

Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth

 

Safon 64:

Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.

 

15

Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff

 

Safon 65:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

 

Safon 66:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

 

Safon 67:

Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

 

16

Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff

 

Safon 68:

Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.

 

Safon 69:

Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg).

 

Safon 69A:           

Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a—

(a)     bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu

(b)     eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg.

 

Safon 70:

Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.

 

Safon 71:

Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.

 

Safon 72:

Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny.

           

17

Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau

 

Safon 73:

Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.

 

Safon 74:

Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

 

18

Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau neu’n darparu cymorth ariannol

 

Safon 75:

Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu gymorth ariannol gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.

 

Safon 76:

Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant neu gymorth ariannol, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Safon 76A:           

Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant neu gymorth ariannol a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).

 

Safon 77:

Os byddwch yn cael cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 78:

Os byddwch yn cael cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi—

(a)     cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)     os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

 

Safon 79:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant neu gymorth ariannol, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.

 

19

Safonau ynghylch corff yn dyfarnu  contractau

 

Safon 80:

Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.

 

Safon 81:

Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.

 

Safon 81A:

Rhaid ichi beidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).

 

Safon 82:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 83:

Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi—

(a)     cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a

(b)     os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

 

Safon 84:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.

 

20

Safonau ar gyfer codi  ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff

 

Safon 85:

Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.

 

Safon 86:

Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.

 

21

Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff

 

Safon 87:

Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

22

Safonau ynghylch cyfleoedd dysgu a gynigir gan gorff

 

Safon 88:

Os byddwch yn cynnig cyfle dysgu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.

 

Safon 89:

 

 

 

 

 

 

 

Os byddwch yn datblygu cyfle dysgu sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cyfle hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan.

23

 

Safonau ynghylch cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg

 

Safon 90:

 

Rhaid ichi hysbysu eich myfyrwyr y caniateir i unrhyw waith ysgrifenedig a gyflwynir ichi fel rhan o asesiad neu arholiad gael ei gyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd gwaith a gyflwynir ichi yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na gwaith ysgrifenedig a gyflwynir ichi yn Saesneg fel rhan o’r asesiad hwnnw neu’r arholiad hwnnw.

 

Safon 90A:

Rhaid ichi beidio â thrin unrhyw waith ysgrifenedig a gyflwynir ichi yn Gymraeg fel rhan o asesiad neu arholiad yn llai ffafriol na gwaith ysgrifenedig a gyflwynir ichi yn Saesneg fel rhan o’r asesiad hwnnw neu’r arholiad hwnnw.

 

24

Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff

 

Safon 91:

Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

 

25

Safonau ynghylch llety myfyrwyr

 

Safon 92:

Pan fydd myfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr yn gwneud cais ichi am lety preswyl, rhaid ichi ganiatáu i’r myfyrwyr hynny fynegi dewis am lety (neu ran o lety) a gaiff ei neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

 

Safon 92A:

Rhaid ichi hybu ymhlith eich myfyrwyr a’ch darpar fyfyrwyr y gallu iddynt fynegi dewis am lety (neu ran o lety) a gaiff ei neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

 

26

Safon ynghylch dyrannu tiwtor personol

 

Safon 93:

Os ydych yn dyrannu tiwtor personol i fyfyriwr (“A”) rhaid ichi—

(a)     gofyn i A a yw’n dymuno cael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg, a

(b)     os yw A yn eich hysbysu ei fod yn dymuno cael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg, dyrannu tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg i A.

RHAN 2

SAFONAU SY’N YMWNEUD Â SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

 

27

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny).

 

 

TABL 1

 

 

 

Rhes

Colofn 1

 

Prif safon

Colofn 2

 

Safon ddibynnol

 

 

(1)

Ateb gohebiaeth

 

Safon 1

 

 

Safon 7

 

 

 

(2)

Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd

 

Safon 3

 

 

 

Safon 6

 

 

 

(3)

Gohebu â sawl person

 

Safon 4

 

 

 

Safon 6

Safon 7

 

 

 

(4)

Safonau cyffredinol ynghylch gohebu

 

Safon 5

 

 

 

Safon 6

Safon 7

 

 

 

 

 

(5)

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg

 

Safon 7

 

 

 

 

 

Safon 1

 

 

(6)

 

Cael galwadau ffôn

 

Safon 9

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

 

 

(7)

 

Cael galwadau ffôn

 

Safon 10 neu 11

 

 

Safon 9

Safon 14

 

 

 

 

 

 

(8)

 

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg

 

Safon 14

 

 

 

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 10

Safon 11

 

a hefyd

Safon 16, a

Safon 17

 

 

 

(9)

 

Cyfarfodydd ag un person

 

Safon 24

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 24A

Safon 24B

 

 

 

(10)

Cyfarfodydd ag un person

 

Safon 24A neu 24B

 

 

 

Safon 24

 

 

 

(11)

Cyfarfodydd ag un person

 

Safon 26

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 26A

Safon 26B

 

 

 

(12)

Cyfarfodydd ag un person

 

Safon 26A neu 26B

 

 

 

Safon 26

 

 

 

(13)

 

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safon 27

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 27A

Safon 27B

Safon 27C

 

a hefyd un neu ragor o’r canlynol:

 

Safon 27CH

Safon 27D

 

 

 

(14)

 

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safon 27A, 27B, 27C, 27CH neu 27D

 

 

 

Safon 27

 

 

 

(15)

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safon 29

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 29A

Safon 29B

 

 

 

(16)

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

Safon 29A neu 29B

 

 

 

Safon 29

 

 

 

(17)

Cyfarfodydd cyhoeddus

 

Safon 30

 

 

 

Safon 33

 

 

 

(18)

Cyfarfodydd cyhoeddus

 

Safon 33

 

 

 

Safon 30

 

 

 

(19)

Darlithoedd cyhoeddus

 

Safon  40

 

 

 

Safon 40A

 

 

 

(20)

Darlithoedd cyhoeddus

 

Safon 40A

 

 

 

Safon 40

 

 

(21)

Dogfennau

 

Safon 43, 44, 45, 46, 47, 48 neu 50

 

 

Safon 51

Safon 52

 

 

(22)

Ffurflenni

 

Safon 53

 

 

Safon 53A

Safon 53B

 

 

(23)

Gwefannau

 

Safon 55, 56 neu 57

 

 

Safon 58

 

 

(24)

Arwyddion

 

Safon 65 neu 66

 

 

Safon 67

 

 

(25)

 

Derbynfa

 

Safon 68

 

 

Safon 71

Safon 72

 

 

(26)

Derbynfa

 

Safon 69

 

 

Safon 69A

 

 

(27)

Derbynfa

 

Safon 70

 

 

Safon 71

 

 

 

 

 

 

 

(28)

 

Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa

 

Safon 71

 

 

 

 

 

 

 

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 68

Safon 70

 

 

 

(29)

Grantiau a chymorth ariannol

 

Safon 76

 

 

 

Safon 76A

Safon 79

 

 

 

(30)

Grantiau a chymorth ariannol

 

Safon 77 neu 78

 

 

 

Safon 76

Safon 76A

 

 

(31)

 

Contractau

 

Safon 81

 

 

Safon 81A

Safon 84

 

 

(32)

 

Contractau

 

Safon 82 neu 83

 

 

Safon 81

Safon 81A

 

 

 

(33)

Gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg

 

Safon 90

 

 

 

Safon 90A

 

 

 

(34)

Gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg

 

Safon 90A

 

 

 

Safon 90

 

 

(35)

Llety myfyrwyr

 

Safon 92

 

 

Safon 92A

 

 

(36)

Llety myfyrwyr

 

Safon 92A

 

 

Safon 92

 

 

28

(1) Mae paragraff 28(2) yn gymwys os yw hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 2 ac ag un neu ragor o’r safonau a restrir ar yr un rhes yng ngholofn 2.

(2) Os yw’r hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safon a restrir yng ngholofn 2 mewn cysylltiad â chyfarfod (neu mewn cysylltiad â chyfarfod o fath penodol), rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio beidio â’i gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safon a restrir ar yr un rhes yng ngholofn 1 mewn cysylltiad â’r cyfarfod hwnnw (neu mewn cysylltiad â chyfarfod o’r math hwnnw).

 

TABL 2

 

 

Rhes

Colofn 1

 

Colofn 2

 

 

 

 

 

 

 

(1)

Cyfarfodydd ag un person

 

 

 

 

 

Safon 23, 24, 24A neu 24B

Cyfarfodydd ag un person ynghylch cwynion, achosion disgyblu neu gymorth i fyfyrwyr

 

 

Safon 25, 26, 26A neu 26B

 

 

 

 

 

 

(2)

Cyfarfodydd â mwy nag un person

 

 

 

 

 

Safon 27, 27A, 27B, 27C, 27CH neu 27D

Cyfarfodydd â mwy nag un person ynghylch cwynion, achosion disgyblu neu gymorth i fyfyrwyr

 

Safon 28, 29, 29A neu 29B

RHAN 3

DEHONGLI’R SAFONAU

 

29

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.

 

30

 

Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn—

(a)     cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)     yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

                            (i)    i’r person arall hwnnw, neu

                          (ii)    i drydydd person.

 

31

 

Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae’r gweithgaredd a gyflawnir neu’r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud â’r canlynol—

(a)     derbyn a dethol myfyrwyr;

(b)     gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff;

(c)     lles myfyrwyr;

(ch) cwynion;

(d)     achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr;

(dd) gwasanaeth gyrfaoedd;

(e)     mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu;

(f)      seremonïau graddio a gwobrwyo;

(ff) asesu neu arholi myfyriwr;

(g)     dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol;

(ng) darlithoedd cyhoeddus;

(h)     cyfleoedd dysgu([2]);

(i)       dyrannu tiwtor personol([3]);

(j)       llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;

(l)       galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio;

(ll)     arwyddion ar adeiladau’r corff.

 

32

Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.

 

33

At ddibenion y safonau—

(a)     nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon);

(b)     nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

 

34

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)     â’i Gynllun Iaith Gymraeg;

(b)     â dyletswydd i gydymffurfio â safonau;

(c)     â Rheolau Sefydlog y Cynulliad;

(ch) ag adran 35(1C) o Ddeddf       2006; neu

(d)     â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)     ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([4]);

(b)     ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)     ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006([5]);

(ch) ystyr “Rheolau Sefydlog y    Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)     ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

 

35

Nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio â’r safonau hyn mewn perthynas â deunydd a gyhoeddir mewn cyfnodolion neu lyfrau.

 

36

At ddibenion safonau 2, 3 ac 21, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.

 

37

At ddibenion safonau 18 i 20 (galwadau ffôn) ystyr “adran” yw adran sy’n delio’n gyfan gwbl neu’n bennaf â’r materion a restrir ym mharagraff 31(a) i (l).

 

38

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei  recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.

 

39

 

At ddibenion safonau 25 i 26B ac 28 i 29B (cyfarfodydd ynghylch cymorth i fyfyrwyr), ystyr darparu ‘cymorth myfyrwyr’ yw darparu gwasanaeth cwnsela neu gymorth mewn perthynas â materion iechyd meddwl.

 

40

 

Nid yw safonau 23 i 29B (cyfarfodydd) yn gymwys i archwiliadau meddygol.

 

41

At ddibenion safonau 30 i 34 (cyfarfodydd cyhoeddus) ystyr “carfan” yw grŵp o fyfyrwyr sy’n rhannu un neu ragor o nodweddion ystadegol neu ddemograffig (er enghraifft, myfyrwyr a aned mewn blwyddyn benodol, pob myfyriwr neu bob myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio daearyddiaeth).

 

42

Nid yw safon 36 (digwyddiadau cyhoeddus) yn gymwys i—

(a)     perfformiadau o gerddoriaeth;

(b)     cynyrchiadau artistig neu ddramatig;

(c)     seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad;

(ch) unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar.

 

43

 

 

 

 

 

 

Nid yw safonau 36 ac 91 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng.

 

44

 

Nid yw safonau 30 i 34 (cyfarfodydd cyhoeddus) a 35 ac 36 (digwyddiadau cyhoeddus) yn gymwys i ddarlithoedd cyhoeddus na seremonïau graddio (gweler safonau 40 i 42).

 

45

Nid yw safonau 38 a 39 (arddangos deunydd) yn gymwys i seremonïau graddio (gweler safonau 41 i 42).

 

46

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 41 (seremonïau graddio), 55 i 61 (gwefannau ac apiau), 62 a 63 (cyfryngau cymdeithasol), 80 (gwahoddiad i dendro) a 90 (cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

 

47

At ddibenion safon 41 (seremonïau graddio a gwobrwyo), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy ddarparu’r wybodaeth mewn fformat ysgrifenedig neu electronig yn Gymraeg pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar yn Saesneg.

 

48

At ddibenion safonau 43, 44, 47, 50 a 53, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr, neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd neu at ddefnydd myfyrwyr, yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd neu i fyfyrwyr yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000([6]).

 

49

(1) Nid yw safonau 53, 53A a 53B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(2) At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3).

(3) Y ffurflenni yw—

(a)     ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 146A, 147 a 148 mewn perthynas â recriwtio);

(b)     ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am grant neu gymorth ariannol gan gorff (gweler safonau 75 i 79 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau a chymorth ariannol);       

(c)     ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 80 i 84 mewn perthynas â thendro am gontract).

 

50

Nid yw safonau 43, 48, 50, 51 a 52 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.

 

51

Nid yw safonau 43, 46, 47 a 50 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.

 

52

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nid yw safonau 55 i 59 (gwefannau)  yn gymwys i—

(a)     dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan  (gweler safonau 43 i 52 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)     gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar  wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod).

 

53

 

At ddibenion safonau 55 i 59 (gwefannau), mae “gwefan” yn cynnwys mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu.

 

54

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(1) At ddibenion safon 61, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig.

(2) Nid yw safon 61 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).

55

At ddibenion safonau 55 i 60 (gwefannau), safon 61 (apiau) a safonau 62 a 63 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu

(b)     pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;

ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

 

56

(1) Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 62 a 63 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

(2) Nid yw safonau 55 i 59 (gwefannau) a safon 61 (apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 62 a 63 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).

 

57

Nid yw safonau 62 a 63 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)     dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 43 i 52 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 37 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)     gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

 

58

At ddibenion safon 64 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.

 

59

 

At ddibenion safonau 68 i 72 (derbyn ymwelwyr)—

(a)     ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau;

(b)     ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw;

(c)     mae “lleoliadau gwasanaeth” yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau celfyddydau, canolfannau cyngor a chanolfannau galw heibio.

 

60

 

 

 

At ddibenion safonau 7, 73 a 74 ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.

 

61

At ddibenion safon 80 (gwahoddiad i dendro)—

(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(2) Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd;

ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

 

62

(1) At ddibenion safon 87, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2) Nid yw safon 87 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

 

63

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

At ddibenion safonau 88 a 89 (cyfleoedd dysgu) a pharagraff 31, ystyr “cyfleoedd dysgu” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flas neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys—

(a)     unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flas na darpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu fel rhan o gwrs; neu

(b)     seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

64

Nid yw safonau 90 a 90A (cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg) yn gymwys pan fydd y corff yn asesu hyfedredd myfyriwr mewn iaith ac eithrio’r Gymraeg.

 

65

At ddibenion safonau 90 a 90A (cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, yr amserlen ar gyfer hysbysu personau am ganlyniad yr asesiad neu’r arholiad; ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg—

(a)     drwy gael cyfieithiad o’r gwaith hwnnw er mwyn iddo gael ei asesu, neu

(b)     drwy beidio â chyfieithu unrhyw sylwadau ar y gwaith a gyfieithwyd.

 

66

At ddibenion safon 93 (dyrannu tiwtor personol) a pharagraff 31—

(a)     “tiwtor personol” yw aelod o staff a ddyrennir i fyfyriwr (“A”) a’i brif rôl fel tiwtor personol yw rhoi cymorth i A o ran ei ddysgu neu o ran unrhyw faterion eraill;

(b)     nid yw dyrannu tiwtor personol i A yn cynnwys darparu tiwtor academaidd ar gyfer A;

(c)     “tiwtor academaidd” yw aelod o staff a ddarperir i A a’i rôl fel tiwtor academaidd yw–

                            (i)    traddodi darlith neu addysgu cwrs, neu

                          (ii)    hwyluso tiwtorialau, gweithdai neu gymorth ymarferol i’r rhaglen ddysgu.

 

67

At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(a)     Deddf Seneddol; neu

(b)     Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 


                    ATODLEN 2    Rheoliad 2(2)

Safonau Llunio Polisi

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg

 

Safon 94:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli,  rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 95:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 96:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 97:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch yr effeithiau (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 98:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 99:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 100:

Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau neu ddarparu cymorth ariannol (neu, pan fo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol  ichi ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol—

(a)     pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n  bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol yn eu cael ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(b)     sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(c)     sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad  (er enghraifft, drwy osod amodau) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(ch) a oes angen  ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 101:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai ydynt yn rhai positif neu’n rhai andwyol), y byddai’r penderfyniad  polisi sydd o dan ystyriaeth yn eu cael ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 102:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 103:

 

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)     cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)     peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Safon 104:

Pan fyddwch yn datblygu neu’n addasu cwrs (neu unrhyw gydran o gwrs), rhaid ichi ystyried—

(a)     pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n  bositif neu’n andwyol), y byddai’r cwrs hwnnw yn eu cael ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(b)     sut y byddai’r cwrs hwnnw yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(c)     sut na fyddai’r cwrs hwnnw yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar—

                            (i)    cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

                          (ii)    peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

RHAN 2

DEHONGLI’R SAFONAU

 

2

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, i’r graddau y mae’r penderfyniad yn ymwneud â’r canlynol—

(a)     derbyn a dethol myfyrwyr;

(b)     gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff;

(c)     lles myfyrwyr;

(ch) cwynion;

(d)     achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr;

(dd) gwasanaeth gyrfaoedd;

(e)     mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu;

(f)      seremonïau graddio a gwobrwyo;

(ff) asesu neu arholi myfyriwr;

(g)     dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol;

(ng) darlithoedd cyhoeddus;

(h)     cyfleoedd dysgu;

(i)       cyrsiau;

(j)       arwyddion ar adeiladau’r corff;

(l)       llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;

(ll)     dyrannu tiwtor personol;

(m)   galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio;

 

ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), penderfyniadau ynghylch—

                            (i)    cynnwys deddfwriaeth;

                          (ii)    arfer pwerau statudol;

                        (iii)    cynnwys datganiadau polisi;

                        (iv)    strategaethau neu gynlluniau strategol;

                          (v)    strwythurau mewnol;

                        (vi)    lleoliadau swyddfeydd ac adeiladau;

                      (vii)    recriwtio neu ddefnyddio gwirfoddolwyr.

 

3

 

 

 

 

 

Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un ai ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

 

4

Yn yr Atodlen hon mae i “cyfleoedd dysgu” yr un ystyr ag ym mharagraff 63 o Atodlen 1.

 

5

Yn yr Atodlen hon, mae i “dyrannu tiwtor personol” yr un ystyr ag ym mharagraff 66 o Atodlen 1.

                              


ATODLEN 3 Rheoliad 2(3)

Safonau gweithredu

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol corff

 

Safon 105:

Rhaid ichi ddatblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, a rhaid ichi gyhoeddi’r polisi hwnnw ar eich mewnrwyd.

 

Safon 106:

Pan fyddwch yn cynnig swydd newydd i unigolyn, rhaid ichi ofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny rhaid ichi ddarparu’r contract yn Gymraeg.

 

Safon 107:

Rhaid ichi—

(a)     gofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a 

(b)     os yw cyflogai yn dymuno hynny, darparu unrhyw ohebiaeth o’r fath iddo yn Gymraeg.

 

Safon 108:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.

 

Safon 109:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.

 

Safon 110:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.

 

Safon 111:

Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a  fyddai’n  dymuno cael unrhyw ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi—

(a)     gwyliau,

(b)     absenoldebau o’r gwaith, ac

(c)     oriau gwaith hyblyg,

yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ffurflenni o’r fath iddo yn Gymraeg.

 

Safon 112:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch ymddygiad yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 113:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch iechyd a lles yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 114:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch cyflogau neu fuddion yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 115:            

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch rheoli perfformiad, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 116:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch absenoldeb o’r gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 117:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch amodau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

Safon 118:

Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch patrymau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.

 

2

Safonau ynghylch cwynion a wneir gan aelod o staff corff

 

Safon 119:

Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o’ch staff—

(a)     gwneud cwynion ichi yn Gymraeg, a

(b)     ymateb i unrhyw gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg.

 

Safon 119A:

Rhaid ichi ddatgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff—

(a)     gwneud cwyn ichi yn Gymraeg, a

(b)     ymateb i gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg;

a rhaid ichi hefyd roi gwybod i bob aelod o staff am yr hawl honno.

 

Safon 120:

Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi—

(a)     cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a

(b)     os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 121:

Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi—

(a)     gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod;

(b)     esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os yw’n ofynnol;

ac os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

 

Safon 122:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano ef, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff—

(a)     wedi gwneud y gŵyn yn Gymraeg,

(b)     wedi ymateb yn Gymraeg i gŵyn amdano ef,

(c)     wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu

(ch) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn.

 

3

Safonau ynghylch corff yn disgyblu staff

 

Safon 123:           

Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol.

 

Safon 123A:

Rhaid ichi—

(a)     datgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich trefniadau ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn, a

(b)     os byddwch yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno.

 

Safon 124:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi—

(a)     cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a

(b)     os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 125:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi—

(a)     gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a

(b)     esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu at y diben hwnnw os yw’n ofynnol;

ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

 

Safon 126:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff—

(a)     wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg,

(b)     wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu

(c)     wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu.

 

4

Safonau ynghylch technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan gorff, ac ynghylch y fewnrwyd

 

Safon 127:

Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’ch staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael).

 

Safon 128:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun pob tudalen ar eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod pob tudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich mewnrwyd.

 

Safon 129:

Rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun hafan eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich mewnrwyd (neu, pan fo’n berthnasol, bod hafan Gymraeg eich mewnrwyd) yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich mewnrwyd.

 

Safon 130:

Bob tro y byddwch yn cyhoeddi tudalen newydd neu’n diwygio tudalen ar eich mewnrwyd, rhaid ichi sicrhau—

(a)     bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,

(b)     bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac

(c)     nad yw’r Gymraeg  yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â thestun y dudalen honno.

 

Safon 131:

Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.

 

Safon 132:

Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich mewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r  Gymraeg ac i gynorthwyo eich staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

Safon 133:

Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar eich tudalennau mewnrwyd yn Gymraeg.

 

5

Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu

 

Safon 134:           

Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion.

 

Safon 135:           

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg—

(a)     recriwtio a chyfweld;

(b)     rheoli perfformiad;

(c)     gweithdrefnau cwyno a disgyblu;

(ch) ymsefydlu;

(d)     delio â’r cyhoedd; ac

(dd) iechyd a diogelwch.

 

Safon 136:

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn—

(a)     cyfarfodydd;

(b)     cyfweliadau; ac

(c)     gweithdrefnau cwyno a disgyblu.

Safon 137:

Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant i staff sy’n darparu cyngor gyrfaoedd ar werth sgiliau yn y Gymraeg yn y sector cyflogaeth.

 

Safon 138:

Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith—

(a)     i’ch cyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, a

(b)     i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr.

 

Safon 139:

Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith.

 

Safon 140:

Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu—

(a)     ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru);

(b)     dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg;

(c)     dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

 

Safon 141:

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel rhan o broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg.

 

Safon 142:           

Rhaid ichi ddarparu geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-bost eich staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n  dysgu’r iaith.

 

Safon 143:

 

 

 

 

 

 

 

Rhaid ichi ddarparu geiriad ar gyfer eich cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu fersiwn Gymraeg o unrhyw neges  sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost.

 

Safon 144:

 

Rhaid ichi roi ar gael i aelodau’r staff sy’n gallu siarad Cymraeg fathodyn iddynt ei wisgo sy’n cyfleu hynny.

 

Safon 144A:

Rhaid ichi hybu ymhlith aelodau’r staff wisgo bathodyn sy’n cyfleu bod aelod o staff yn gallu siarad Cymraeg.

 

6

Safonau ynghylch recriwtio ac apwyntio

 

Safon 145:

Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)     bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;

(c)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

 

Safon 145A:

Os byddwch wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi—

(a)     pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd, a

(b)     hysbysebu’r swydd yn Gymraeg.

 

Safon 146:

Pan fyddwch yn hysbysebu swydd, rhaid ichi ddatgan y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Safon 146A:

Os byddwch yn cyhoeddi—

(a)     ffurflenni cais am swyddi;

(b)     deunydd esboniadol ynghylch eich proses ar gyfer ymgeisio am swyddi;

(c)     gwybodaeth am eich proses gyfweld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi;

(ch) swydd-ddisgrifiadau;

rhaid ichi eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid ichi sicrhau nad ydych yn trin unrhyw fersiynau Cymraeg o’r dogfennau yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg ohonynt.

 

Safon 146B:

Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau).

 

Safon 147:

Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno cael cyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg ac, os yw unigolyn yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

 

Safon 148:           

Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi—

(a)     yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu mewn unrhyw ddull arall o asesiad, a

(b)     yn esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os oes angen;

ac, os yw’r unigolyn yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad neu’r asesiad, rhaid  ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfweliad neu asesiad (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad neu’r asesiad yn Gymraeg heb y gwasanaeth cyfieithu hwnnw).

 

Safon 149:

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i unigolyn beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg.

 

7

Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir yng ngweithle corff

 

Safon 150:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun Saesneg cyfatebol neu ar arwydd ar wahân), ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

 

Safon 151:

Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

 

Safon 152:

Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a arddangosir yn eich gweithle yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

 

8

Safon ynghylch cyhoeddiadau a negeseuon sain yng ngweithle corff

 

Safon 153:

Pan fyddwch yn gwneud cyhoeddiadau dros offer sain yn eich gweithle, rhaid i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn Gymraeg, ac os gwneir y cyhoeddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.

RHAN 2

SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

 

9

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2.

 

TABL 1

 

 

 

Rhes

Colofn 1

 

Prif safon

Colofn 2

 

Safon ddibynnol

 

 

(1)

Gweithdrefnau cwyno

 

Safon 119

 

 

Safon 119A

 

 

(2)

Gweithdrefnau cwyno

 

Safon 119A

 

 

Safon 119

 

 

(3)

Disgyblu staff

 

Safon 123

 

 

Safon 123A

 

 

(4)

Disgyblu staff

 

Safon 123A

 

 

Safon 123

 

 

(5)

Y fewnrwyd

 

Safon 128, 129 neu 130

 

 

Safon 131

 

 

 

(6)

Codi ymwybyddiaeth o’r bathodyn Cymraeg

 

Safon 144

 

 

 

Safon 144A

 

 

 

(7)

Codi ymwybyddiaeth o’r bathodyn Cymraeg

 

Safon 144A

 

 

 

Safon 144

 

 

(8)

Recriwtio ac apwyntio

 

Safon 145

 

 

Safon 145A

 

 

(9)

 

Recriwtio

 

Safon 146

 

 

Safon 146A

Safon 146B

Safon 149

 

 

(10)

Arwyddion mewnol

 

Safon 150

 

 

Safon 152

RHAN 3

DEHONGLI’R SAFONAU

 

10

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.

 

11

(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)     â’i Gynllun Iaith Gymraeg;

(b)     â dyletswydd i gydymffurfio â safonau;

(c)     â Rheolau Sefydlog y Cynulliad;

(ch) ag adran 35(1C) o Ddeddf         2006; neu

(d)     â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)     ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993;

(b)     ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)     ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;

(ch) ystyr “Rheolau Sefydlog y    Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)     ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

 

12

At ddibenion safonau 128, 129 a 130 (mewnrwyd corff), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw, maint, ffont, a fformat unrhyw destun);

(b)     pryd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar y fewnrwyd;

ond nid yw’n golygu bod yn rhaid i’r deunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â’r deunydd Saesneg, nac ar dudalen a fydd yn debygol o agor cyn y fersiwn Saesneg gyfatebol o’r dudalen.

 

13

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

At ddibenion safonau 146A (recriwtio) a 150 (arwyddion mewnol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)     golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)     maint y deunydd;

(c)     lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)     fformat cyhoeddi’r deunydd.

 

14

At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i gyhoeddi, darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid cyhoeddi, darparu neu arddangos deunydd yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon).

 

15

Nid yw safonau 128 i 131 (y fewnrwyd) yn gymwys i—

(a)     dogfennau y darperir dolen iddynt ar y fewnrwyd, deunydd hysbysebu ar y fewnrwyd, na chlipiau fideo a sain ar y fewnrwyd (gweler safonau 112 i 118 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau);

(b)     gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar fewnrwyd corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau neu ar fforwm trafod).

 

16

At ddibenion safonau 145 a 145A yn unig—

(a)     mae “swydd” yn cynnwys penodiad cyhoeddus;

(b)     ystyr “penodiad cyhoeddus” yw unrhyw benodiad i gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus.

 

17

Nid yw safon 153 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng.

                    ATODLEN 4    Rheoliad 2(4)

Safonau Cadw Cofnodion

RHAN 1

Y SAFONAU

 

1

Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff

 

Safon 154:

Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau.

 

Safon 155:

Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

Safon 156:

Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).

 

Safon 157:

Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

Safon 158:

Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 134), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny.

 

Safon 159:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o—

(a)     nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 135), a

(b)     os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 135, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs.

Safon 160:

Rhaid ichi gadw cofnod o nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn (a roddir ar gael iddynt yn unol â safon 144) ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

 

Safon 161:

 

Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 145) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag.

 

Safon 162:

Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 145) fel swyddi sy’n gofyn—

(a)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)     bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd;

(c)     bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

 

RHAN 2

DEHONGLI’R SAFONAU

 

2

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.

 

3

At ddibenion safonau 154, 158, 159, 160 a 162, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.

                    ATODLEN 5    Rheoliad 2(5)

Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol

RHAN 1

SAFONAU CYFLENWI GWASANAETHAU

 

1

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau

 

Safon 163:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

2

Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno

 

Safon 164:       

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

                            (i)    sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

                          (ii)    sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

3

Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.

 

Safon 165:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer—

                            (i)    goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

                          (ii)    hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a

                        (iii)    hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

4

Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau

 

Safon 166:

(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5) Rhaid  ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

5

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau

 

Safon 167:

Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

6

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

 

Safon 168:

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 2

SAFONAU LLUNIO POLISI

 

7

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau llunio polisi

 

Safon 169:           

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

8

Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno

 

Safon 170:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

                            (i)    sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

                          (ii)    sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

9

Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio

 

Safon 171:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac

(c)     sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

10

Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau llunio polisi

 

Safon 172:

(1) Rhaid ichi lunio adroddiad, (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

11

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau llunio polisi

 

Safon 173:

Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

12

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

 

Safon 174:

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 3

SAFONAU GWEITHREDU

 

13

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau gweithredu

 

Safon 175:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

14

Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno

 

Safon 176:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

                            (i)    sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

                          (ii)    sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich mewnrwyd.

 

15

Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.

 

Safon 177:

Rhaid ichi—

(a)     sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer—

                            (i)    goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

                          (ii)    hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a

                        (iii)    hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a

(b)     cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich mewnrwyd.

 

16

Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau gweithredu

 

Safon 178:

(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)—

(a)     nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 158);

(b)     nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch  yn unol â safon 159);

(c)     os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn  Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 159);

(ch) nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 160);

(d)     nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn—

                            (i)    bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,

                          (ii)    bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd,

                        (iii)    bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu

                        (iv)    nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol,

               (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 162);

(dd) nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol  ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

17

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau gweithredu

 

Safon 179:

Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

 

18

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

 

Safon 180:

Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 4

SAFONAU CADW COFNODION

 

19

Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion

 

Safon 181:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)     ar eich gwefan, a

(b)     ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

 

20

Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg

 

Safon 182:           

Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny.

RHAN 5

DEHONGLI’R SAFONAU

 

21

Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhannau 1 i 4 fel a ganlyn.

 

22

At ddibenion safonau 166, 172 a 178, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.

 

23

At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon).

 

RHAN 6

DARPARIAETH ATODOL

 

24

Gweithdrefnau cwyno

 

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff—

(a)     cydymffurfio â hwy mewn un weithdrefn gwyno;

(b)     diwygio gweithdrefn gwyno sy’n bodoli eisoes.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 164;

(b)     safon 170;

(c)     safon 176.

 

25

Trefniadau goruchwylio

 

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy un set o drefniadau goruchwylio.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 165; 

(b)     safon 171;

(c)     safon 177.

 

26

Adroddiadau blynyddol

 

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy gynnwys yr wybodaeth angenrheidiol mewn un adroddiad blynyddol o’r enw “Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg”.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 166;

(b)     safon 172;

(c)     safon 178.

 

27

Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae corff yn bwriadu cydymffurfio â safonau

 

 

(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy mewn un ddogfen.

(2) Y safonau yw—

(a)     safon 167;

(b)     safon 173;

(c)     safon 179.

 

 

   

 



([1])           2011 mccc 1.

([2])           Gweler paragraff 63.

([3])           Gweler paragraff 66.

([4])           1993 p. 38.

([5])           2006 p. 32.

([6])           2000 p. 36.